Skip to content

GE Hitachi BWRX-300 Step 1 GDA statement

In January 2024, the Office for Nuclear Regulation (ONR), together with the Environment Agency and Natural Resources Wales, began Step 1 of the Generic Design Assessment (GDA) for the BWRX-300 design. During the last 11 months we have undertaken activities to initiate and establish the project and to prepare for technical assessment in Step 2. These activities are defined within our GDA guidance document, Guidance to Requesting Parties (ref.[1]).

GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (UK Branch) is the Requesting Party (RP) for this GDA. GE-Hitachi Nuclear Energy Americas LLC (GEH-A) is the designer of the BWRX-300 and is a sister company of the RP. GE Vernova, Inc. is the ultimate parent company of both the RP and GEH-A. 

GEH-A has been developing a ‘standard’ BWRX-300 design with supporting analysis for projects around the world, including the Darlington New Nuclear Project Unit 1 in Canada and the Clinch River Nuclear Unit 1 in the United States. A version of the standard design and analysis as it was in March 2024 has been proposed by the RP for this GDA.

Whilst the design and supporting analysis is common to all BWRX-300 projects, the RP is being supported in this GDA by its supply chain partner Amentum which is assisting with the development of safety, security, safeguards and environment cases (SSSE) that take into account UK-specific technical and regulatory considerations.

The RP has requested a two-step GDA, the output of this will be a Step 2 GDA Statement reflecting the agreed GDA scope and ONR’s assessment to that point in time. It will set out ONR’s judgment, based upon the assessment undertaken, of the fundamental acceptability of the design and whether the design is potentially capable of being constructed and operated safely and securely on a site in Great Britain (GB) bounded by the generic site envelope.

The overall duration for Step 2 of GDA is expected to be 12 months, and is due to be completed in December 2025.

During Step 1 we have been engaged extensively with the RP and have assessed more than 56 submissions. We have been able to conclude that the information submitted within Step 1 (ref. [2]) meets the requirements from our guidance and demonstrates a good understanding of UK practice and regulatory expectations. We take confidence from these submissions that the RP has a clear view of what is needed to progress through the GDA and how it will justify its design.

We have agreed a defined GDA scope (ref. [3]) with the RP that is sufficient for a two-step GDA. Where aspects are declared as being reduced or out of scope, we are content that these are justified and appropriate. Overall, we are satisfied that the agreed GDA scope will allow us to undertake a meaningful assessment of the generic BWRX-300 design.

We have agreed a submission schedule with the RP which aligns with our assessment plans, the agreed GDA scope and the RP’s declared schedule for GDA. The RP has stated it has sufficient resource to deliver the submissions identified for Step 2 to the agreed schedule.  

The SSSE to be submitted during GDA will comprise a Preliminary Safety Report (which encompasses Safeguards), a Generic Security Report, and a Preliminary Environment Report. Initial revisions of the SSSE will be submitted at the start of Step 2. The SSSE will provide the primary basis for any regulatory judgements made in Step 2. We are satisfied that the proposed SSSE approaches are logical, suitably structured and include all expected technical topics. It will also effectively capture work done by Amentum during Step 1 to identify any UK-specific variations to the RP’s standard design and analysis that should be addressed if the BWRX-300 is to be deployed in GB.

Our review of submissions and engagements with the RP in Step 1 have allowed us to plan our Step 2 assessment activities and identify areas to collaborate with the regulatory bodies responsible for nuclear safety and security in the United States of America (USA) and Canada in an informed and targeted manner, to the benefit and efficiency of all three regulators. We have identified areas to leverage assessment work already completed by other regulators and to collaborate in ongoing or new areas, to increase the likelihood of a standard BWRX-300 design that is acceptable in multiple regulatory regimes.

In line with our guidance, the RP has undertaken a self-assessment review of its own readiness to proceed to Step 2. We judge that the process undertaken by the RP was reasonable, proportionate and sufficiently robust for this step of GDA. The overall conclusion of the RP's readiness review is that it considers itself ready to begin Step 2.

We have also undertaken a review of our own readiness to proceed to Step 2 and conclude that, based on the agreed GDA scope and submission schedule, we can undertake a meaningful assessment during Step 2 which warrants the continued deployment of regulatory resource. Our readiness review demonstrated that we consider both ourselves and the RP ready to proceed to Step 2 of GDA for the BWRX-300 design.

Full details for the basis of this statement are summarised in our Step 1 summary report (ref. [4]).

In summary:

  • The RP has completed all the requirements for Step 1 from our guidance;
  • Interactions with the RP throughout Step 1 have been professional and constructive, and we have confidence that this will continue;
  • The RP has made good progress in developing its organisation and arrangements to support GDA;
  • The agreements necessary to undertake the GDA are in place or have developed sufficiently for this point in the project with clear plans for further development;
  • The RP has demonstrated an understanding of our regulatory expectations and has confidence that these can be met by its design and safety, security and safeguards case;
  • We have improved our understanding of the generic BWRX-300 design and safety, security and safeguards case and have used this to inform our planning for further assessment activities;
  • We, and the RP, are ready to proceed to Step 2 of the GDA; and
  • We therefore conclude that the RP’s BWRX-300 design can proceed to Step 2 of the GDA

References

  1. ONR, New Nuclear Power Plants: Generic Design Assessment Guidance to Requesting Parties, ONR-GDA-GD-006, Revision 1, August 2024, https://www.onr.org.uk/media/iexmextu/onr-gda-gd-006.docx
  2. GE-Hitachi, “NEDO-34087, BWRX-300 UK Generic Design Assessment Master Document Submission List (MDSL)”, Revision 9, November 2024, ONRW-2019369590-15027
  3. ​GE-Hitachi, “NEDC-34148P, Scope of Generic Design Assessment”, Revision 2, September 2024, ONRW-2019369590-13525 
  4. ONR, “GE-Hitachi, BWRX-300 Project Assessment Report - Generic Design Assessment of the GE Hitachi BWRX-300 – Step 1 Summary Report”, ONRW-2019369590-13756 Revision 1, November 2024

Datganiad GDA Cam 1 BWRX-300 GE-Hitachi

Ym mis Ionawr 2024, aeth y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (ONR), ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, ati i gychwyn Cam 1 yr Asesiad Dyluniad Generig (GDA) ar gyfer dyluniad BWRX-300. Yn ystod yr 11 mis diwethaf, rydym wedi gwneud gweithgareddau i gychwyn a sefydlu'r prosiect ac i baratoi ar gyfer asesiad technegol yng Ngham 2. Mae'r gweithgareddau hyn wedi eu diffinio yn ein dogfen arweiniad i GDA, Arweiniad i Bartïon sy'n Gwneud Cais (cyf.[1]).

GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (Cangen y DU) yw'r Parti sy'n Gwneud Cais ar gyfer y GDA yma. GE-Hitachi Nuclear Energy Americas LLC (GEH-A) yw dylunydd y BWRX-300 ac mae'n chwaer gwmni i'r Parti sy'n Gwneud Cais. GE Vernova, Inc. yw rhiant gwmni pennaf y Parti sy'n Gwneud Cais a hefyd GEH-A. 

Mae GEH-A wedi bod yn datblygu dyluniad BWRX-300 'safonol' gyda dadansoddiad ategol i brosiectau o amgylch y byd, yn cynnwys Darlington New Nuclear Project Unit 1 yng Nghanada a Clinch River Nuclear Unit 1 yn yr Unol Daleithiau. Mae fersiwn o'r dyluniad safonol a'r dadansoddiad fel ydoedd ym mis Mawrth 2024 wedi cael ei gynnig gan y Parti sy'n Gwneud Cais ar gyfer y GDA yma.

Er bod y dyluniad a'r dadansoddiad ategol yn gyffredin i'r holl brosiectau BWRX-300, mae'r Parti sy'n Gwneud Cais yn derbyn cefnogaeth yn y GDA hwn gan ei bartner cadwyn gyflenwi Amentum sy'n helpu i ddatblygu achosion SSSE (diogelwch, amddiffyn, trefniadau diogelwch ac amgylchedd) sy'n cymryd elfennau technegol a rheoliadol penodol y DU i ystyriaeth.

Mae'r Parti sy'n Gwneud Cais wedi gofyn am GDA dau gam, a chanlyniad hyn fydd Datganiad GDA Cam 2 sy'n adlewyrchu'r cwmpas y cytunwyd arno ar gyfer GDA ac asesiad yr ONR hyd y pwynt hwnnw mewn amser. Bydd yn nodi beirniadaeth ONR, wedi ei seilio ar yr asesiad a wnaed, o ba mor dderbyniol yw'r dyluniad yn ei hanfod ac a oes gan y dyluniad y potensial i gael ei adeiladu a'i weithredu'n ddiogel ar safle ym Mhrydain Fawr gydag amlen y safle generig yn ffin iddo.

Hyd disgwyliedig Cam 2 y GDA yn gyffredinol yw 12 mis, a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2025.

Yn ystod Cam 1 rydym wedi ymgysylltu'n estynedig gyda'r Parti sy'n Gwneud Cais ac rydym wedi asesu mwy na 56 cyflwyniad. Rydym wedi gallu dod i'r casgliad bod y wybodaeth a gyflwynyd yng Ngham 1 (cyf.[2]) yn bodlioni gofynion ein canllawiau ac yn dangos dealltwriaeth dda o arferion a disgwyliadau rheoliadol y DU. Rydym yn hyderus o weld y cyflwyniadau hyn bod gan y Parti sy'n Gwneud Cais olwg glir ar yr hyn sydd ei angen er mwyn symud ymlaen drwy'r GDA a sut y bydd yn cyfiawnhau ei ddyluniad.

Rydym wedi cytuno ar gwmpas GDA diffiniedig (cyf.[3]) gyda'r Parti sy'n Gwneud Cais, sy'n ddigonol ar gyfer GDA dau gam. Pan ddywedir bod agweddau penodol wedi lleihau neu y tu allan i'r cwmpas, rydym yn fodlon bod y rhain yn gyfiawn ac yn briodol. Yn gyffredinol, rydym yn fodlon y bydd y cwmpas y cytunwyd arno ar gyfer y GDA yn caniatáu i ni wneud asesiad ystyrlon o'r dyluniad BWRX-300 generig.

Rydym wedi cytuno ar amserlen gyflwyno gyda'r Parti sy'n Gwneud Cais sy'n alinio gyda'n cynlluniau asesu, y cwmpas y cytunwyd arno ar gyfer y GDA a'r amserlen a gyhoeddwyd gan y Parti sy'n Gwneud Cais ar gyfer y GDA. Mae'r Parti sy'n Gwneud Cais wedi nodi bod ganddo ddigon o adnoddau i ddarparu'r cyflwyniadau a nodwyd ar gyfer Cam 2 i gyfateb â'r amserlen y cytunwyd arni.  

Bydd yr SSSE sydd i gael ei gyflwyno yn ystod GDA yn cynnwys Adroddiad Diogelwch Cychwynnol (sy'n cwmpasu'r Trefniadau Diogelu), Adroddiad Diogelwch Generig ac Adroddiad Amgylchedd Cychwynnol. Bydd adolygiadau cychwynnol o'r SSSE yn cael eu cyflwyno ar ddechrau Cam 2. Bydd yr SSSE yn darparu'r sail gychwynnol ar gyfer unrhyw feirniadaethau rheoliadol a wneir yng Ngham 2. Rydym yn fodlon bod y dulliau SSSE arfaethedig yn rhesymegol, wedi eu strwythuro'n addas ac yn cynnwys yr holl bynciau technegol disgwyliedig. Bydd hefyd yn dangos yn effeithiol y gwaith a wnaed gan Amentum yn ystod Cam 1 i nodi unrhyw amrywiadau penodol i'r DU sydd yn nyluniad a dadansoddiad safonol y Parti sy'n Gwneud Cais y dylid ymdrin â nhw os yw'r BWRX-300 i gael ei ddefnyddio ym Mhrydain.

Mae ein hadolygiad o gyflwyniadau ac ymgysylltiadau â'r Parti sy'n Gwneud Cais yng Ngham 1 wedi caniatáu i ni gynllunio ein gweithgareddau asesu Cam 2 a chanfod meysydd lle gellir cydweithio â'r cyrff rheoleiddio sy'n gyfrifol am ddiogelwch ac amddiffyniad niwclear yn Unol Daleithiau America (UDA) a Chanada mewn ffordd ddeallus ac wedi ei thargedu, er budd ac effeithlonrwydd pob un o'r tri rheoleiddiwr.  Rydym wedi nodi meysydd lle gallwn fanteisio ar waith asesu a gwblhawyd yn barod gan reoleiddwyr eraill a chydweithio mewn meysydd newydd neu barhaus, er mwyn cynyddu'r tebygolrwydd y ceir dyluniad BWX-300 safonol sy'n dderbyniol mewn nifer o gyfundrefnau rheoleiddiol.

Yn unol â'n harweiniad, mae'r Parti sy'n Gwneud Cais wedi gwneud adolygiad hunanasesu o'i barodrwydd ei hun i symud ymlaen i Gam 2. Rydym yn barnu bod y broses a wnaed gan y Parti sy'n Gwneud Cais yn rhesymol, cymesur a digon cadarn ar gyfer y cam hwn o'r GDA. Casgliad cyffredinol adolygiad parodrwydd y Parti sy'n Gwneud Cais yw ei fod yn ei ystyried ei hun yn barod i gychwyn Cam 2.

Rydym hefyd wedi gwneud adolygiad o'n parodrwydd ein hunain i symud ymlaen i Gam 2 ac rydym yn dod i'r casgliad, ar sail yr amserlen gyflwyno a'r cwmpas y cytunwyd arno ar gyfer y GDA, y gallwn wneud asesiad ystyrlon yn ystod Cam 2 sy'n cyfiawnhau parhau i ddefnyddio adnoddau rheoleiddiol. Roedd ein hadolygiad parodrwydd yn dangos ein bod yn ystyried ein bod ni'n hunain a'r Parti sy'n Gwneud Cais yn barod i symud ymlaen i Gam 2 o'r GDA ar gyfer dyluniad TBWRX-300 .

Mae'r manylion llawn ar gyfer sail y datganiad hwn wedi eu crynhoi yn ein hadroddiad crynodeb Cam 1 (cyf.[4]).

I grynhoi:

  • Mae'r Parti sy'n Gwneud Cais wedi cwblhau'r holl ofynion ar gyfer Cam 1 o'n harweiniad;
  • Mae'r rhyngweithiau gyda'r Parti sy'n Gwneud Cais trwy gydol Cam 1 wedi bod yn broffesiynol ac adeiladol, ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn parhau;
  • Mae'r Parti sy'n Gwneud Cais wedi dod yn ei flaen yn dda o ran datblygu ei drefniant a'i drefniadau i gefnogi'r GDA;
  • Mae'r cytundebau sy'n angenrheidiol i wneud y GDA yn eu lle neu maen nhw wedi datblygu'n ddigonol ar gyfer y pwynt hwn yn y prosiect gyda chynlluniau clir ar gyfer datblygiad pellach;
  • Mae'r Parti sy'n Gwneud Cais wedi dangos dealltwriaeth o'n disgwyliadau rheoliadol ac mae'n hyderus y gellir bodloni'r rhain drwy ei ddyluniad a'i achos diogelwch, amddiffyniad a threfniadau diogelu;
  • Rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o'r dyluniad BWRX-300 generig a'r achos diogelwch, amddiffyniad a threfniadau diogelu ac rydym wedi defnyddio hyn i hysbysu ein cynlluniau ar gyfer gweithgareddau asesu pellach;
  • Rydym ni, a'r Parti sy'n Gwneud Cais, yn barod i symud ymlaen i Gam 2 y GDA; a
  • Felly, rydym yn dod i'r casgliad y gall dyluniad BWRX-300 y Parti sy'n Gwneud Cais symud ymlaen i Gam 2 y GDA.

Cyfeiriadau

  1. ONR, New Nuclear Power Plants: Generic Design Assessment Guidance to Requesting Parties, ONR-GDA-GD-006, ONR-GDA-GD-006, Adolygiad 1, Awst 2024, https://www.onr.org.uk/media/iexmextu/onr-gda-gd-006.docx
  2. GE-Hitachi, “NEDO-34087, BWRX-300 UK Generic Design Assessment Master Document Submission List (MDSL)”, Adolygiad 9, Tachwedd 2024, ONRW-2019369590-15027
  3. GE-Hitachi, “NEDC-34148P, Scope of Generic Design Assessment ", Adolygiad 2, Medi 2024, ONRW-2019369590-13525 
  4. ONR, “GE-Hitachi, BWRX-300 Project Assessment Report - Generic Design Assessment of the GE Hitachi BWRX-300 – Step 1 Summary Report ", ONRW-2019369590-13756 Adolygiad 1, Tachwedd 2024