The Office for Nuclear Regulation, Environment Agency, and Natural Resources Wales (NRW) announced today that they are progressing to Step 2 of their Generic Design Assessment (GDA) of the GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (GE-Hitachi) BWRX-300 reactor design.
The GDA process enables regulators to assess new nuclear power station designs at an early stage of the regulatory process and to provide confidence that these new designs can be constructed, operated, and decommissioned in Great Britain.
The assessment is restricted to the design of a generic nuclear power station. It is not site-specific and does not consider any specific arrangements or capabilities of a future developer or operator.
The focus of the regulators during Step 1 has been on ensuring the necessary arrangements, processes and submissions are established to commence the Step 2 of GDA, and that an agreed scope and schedule for the technical assessment of the GE-Hitachi BWRX-300 are in place.
Based on the evidence provided, the regulators are satisfied that GE-Hitachi has demonstrated its readiness to proceed to Step 2.
During Step 2, regulatory activity will be targeted on assessing the fundamental adequacy of the GE-Hitachi BWRX-300 design for deployment in Great Britain. This will consider the suitability of the methodologies, approaches, codes, standards and philosophies identified by GE-Hitachi in the generic safety, security, safeguards and environment cases for securing future regulatory permissions and permits.
Rob Exley, ONR’s Head of Regulation for the GE-Hitachi BWRX-300 design
“Step 2 of the GDA will mark the beginning of our technical assessment of the BWRX-300 reactor, where we'll examine GE-Hitachi’s submissions setting out why it believes its generic design can be safely and securely deployed in Great Britain.
“We will also seek to build upon our collaborative partnerships with both the US Nuclear Regulatory Commission and the Canadian Nuclear Safety Commission. We are fully supportive of GE-Hitachi’s ambition to maintain a standard reactor design with minimal design changes from country to country.
"As all our organisations are reviewing essentially the same design in parallel, we are committed to exploring all opportunities for more efficient regulation, the sharing of insights and information, considering common submissions and analysis, and enabling GE-Hitachi to maintain a common design as much as possible."
Saffron Price-Finnerty, the Environment Agency’s New Reactors Programme Manager
“Our Environment Agency team has been working diligently with GE-Hitachi to achieve the first major milestone of the GDA of its BWRX-300 small modular reactor design and we’re now ready to move from Step 1, Initiation, to Step 2, Fundamental Assessment.
“During Step 2 our skilled and experienced team will be assessing the underpinning fundamentals of the BWRX-300, including identifying any specific environmental protection issues or concerns that we find.
“I’m grateful for the hard work of our team and that of GE-Hitachi to meet this milestone. We welcome GE-Hitachi’s initiative of taking a truly international approach in working towards a single design for global deployment. We’ll work with other regulators to see what can be achieved while ensuring protection of people and the environment.
“People can get involved through the public comments process which we have required GE-Hitachi to set up. The new website provides information about the design for people to comment and ask questions. GE-Hitachi will respond to all relevant comments and questions, and the regulators will use this where relevant, to inform our own assessment work.”
Natural Resources Wales participates in GDA where the company designing the nuclear power station advises that its design might be proposed for construction in Wales.
Paul Gibson, Natural Resources Wales’ Radioactivity & Industry Policy Team Leader
“As the project progresses to Step 2 (Fundamental Assessment), we will continue working closely with our regulatory partners, the Environment Agency and Office for Nuclear Regulation, on the GDA of the GE-Hitachi BWRX-300.”
GE-Hitachi has launched a new GDA website where it publishes detailed information about its design and a public comments process. The public comments process enables anyone to submit comments and questions about the reactor design to the company for its response. Regulators see the questions and the responses, and, where relevant, use these to help inform their assessments throughout the rest of the GDA process.
This GDA is being managed in the UK by GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (UK Branch) which is the Requesting Party (RP). GE Vernova Inc, is the ultimate parent company of GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC overseeing the design of the reactor.
GE-Hitachi is receiving some of its funding for its own costs and those of the regulators for this GDA from government’s Future Nuclear Enabling Fund programme. Separately, GE-Hitachi has been selected by Great British Nuclear to advance to the next phase of the small modular reactor competition to identify technologies to be included in the UK nuclear programme.
GE-Hitachi applied for a two-step GDA which is expected to complete in December 2025. At the end of Step 2, the regulators will publish Step 2 GDA Statements indicating their level of confidence in whether the design can potentially be built, operated, and decommissioned in Great Britain in a way that is safe, secure and protects the environment.
No Design Acceptance Confirmation (DAC) or Statement of Design Acceptability (SoDA) will be issued at the end of the currently agreed programme of work.
Should an organisation wish to bring forward plans to deploy GE-Hitachi’s BWRX-300 in Great Britain, a further period of detailed design assessment will need to be carried out by the regulators before safety significant construction can commence and environmental permits are issued. This could be undertaken on a generic basis with GE-Hitachi if it chooses to return to GDA to complete Step 3, or it could be done with a UK licensee/constructor as part of a site-specific development.
For more information, please read ONR’s end of Step 1 statement and the Environment Agency and Natural Resources Wales (NRW) joint end of Step 1 statement.
You can also visit the GE-Hitachi GDA website.
This news release is also available in Welsh.
Adweithydd Modiwlaidd Bach GE-Hitachi yn cwblhau cam cyntaf yr asesiad dylunio
Heddiw, cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn symud ymlaen i Gam 2 o’u Hasesiad Dyluniad Generig (ADG) o ddyluniad adweithydd BWRX-300 GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (GE-Hitachi).
Mae’r broses yn galluogi rheoleiddwyr niwclear y DU i asesu dyluniadau gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn gynnar yn y broses reoleiddio a rhoi hyder y gellir adeiladu, gweithredu a datgomisiynu’r dyluniadau newydd hyn ym Mhrydain Fawr. Mae'r asesiad wedi’i gyfyngu i ddyluniad gorsaf ynni niwclear generig. Nid yw'n benodol i unrhyw safle ac nid yw'n ystyried unrhyw drefniadau neu alluoedd penodol ar gyfer unrhyw ddatblygwr neu weithredwr yn y dyfodol.
Mae ffocws y rheoleiddwyr yn ystod Cam 1 wedi bod ar sicrhau bod y trefniadau, y prosesau a’r cyflwyniadau angenrheidiol wedi’u sefydlu i gychwyn Cam 2 yr ADG, a bod cwmpas ac amserlen y cytunwyd arni ar gyfer asesiad technegol o’r adweithydd BWRX-300 yn eu lle. Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, rydym yn fodlon bod GE-Hitachi wedi dangos ei fod yn barod i symud ymlaen i Gam 2 yr ADG.
Yn ystod Cam 2, bydd gweithgarwch rheoleiddio’n cael ei dargedu ar asesu digonolrwydd sylfaenol dyluniad y BWRX-300 i’w ddefnyddio ym Mhrydain Fawr. Bydd hyn yn ystyried addasrwydd y methodolegau, y dulliau, y codau, y safonau a’r athroniaethau a nodwyd gan GE-Hitachi yn yr achosion diogelwch, diogeledd ac amgylcheddol generig ar gyfer sicrhau caniatâd a thrwyddedau rheoleiddio yn y dyfodol.
Dywedodd Rob Exley, Pennaeth Rheoleiddio’r ONR ar gyfer dyluniad BWRX-300 GE-Hitachi:
“Bydd Cam 2 yr ADG yn nodi dechrau asesiad technegol yr ONR o'r adweithydd BWRX-300, lle byddwn yn archwilio cyflwyniadau GE-Hitachi sy’n nodi pam ei fod yn credu y gellir defnyddio ei gynllun generig yn ddiogel ym Mhrydain Fawr.
“Byddwn hefyd yn ceisio adeiladu ar ein partneriaeth gydweithredol gyda Chomisiwn Rheoleiddio Niwclear yr UDA a Chomisiwn Diogelwch Niwclear Canada. Rydym yn gwbl gefnogol i uchelgais GE-Hitachi i gynnal dyluniad adweithydd safonol heb fawr ddim newidiadau o ran dyluniad rhwng un wlad a’r llall. Gan fod ein holl sefydliadau yn adolygu'r un dyluniad yn ei hanfod ochr yn ochr, mae'r ONR wedi ymrwymo i archwilio'r holl gyfleoedd ar gyfer rheoleiddio mwy effeithlon, rhannu mewnwelediadau a gwybodaeth, ystyried cyflwyniadau a dadansoddiadau cyffredin, a galluogi GE-Hitachi i gynnal dyluniad cyffredin gymaint ag y bo modd."
Dywedodd Saffron Price-Finnerty, Rheolwr Rhaglen Adweithyddion Newydd Asiantaeth yr Amgylchedd:
“Mae ein tîm Asiantaeth yr Amgylchedd wedi bod yn gweithio'n ddiwyd gyda GE-Hitachi Nuclear Energy i gyflawni carreg filltir fawr gyntaf yr ADG o ran dyluniad yr adweithydd modiwlaidd bach BWRX-300 ac rydym bellach yn barod i symud o Gam 1, Cychwyn, i Gam 2, Asesiad Sylfaenol.
“Yn ystod Cam 2, bydd ein tîm medrus a phrofiadol yn asesu hanfodion sylfaenol y BWRX-300, gan gynnwys nodi unrhyw faterion neu bryderon penodol o ran diogelu’r amgylchedd.
“Rwy'n ddiolchgar am waith caled ein tîm a gwaith GE-Hitachi i gyrraedd y garreg filltir hon. Rydym yn croesawu menter GE-Hitachi o gymryd agwedd wirioneddol ryngwladol at weithio tuag at un cynllun ar gyfer defnydd byd-eang. Byddwn yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill i weld beth y gellir ei gyflawni tra'n sicrhau bod pobl a'r amgylchedd yn cael eu hamddiffyn.
“Gall pobl gymryd rhan a chyfrannu at yr ADG hwn drwy'r broses sylwadau cyhoeddus y bu'n ofynnol i GE-Hitachi ei sefydlu. Mae’r wefan newydd yn darparu gwybodaeth am y dyluniad er mwyn i bobl roi sylwadau a gofyn cwestiynau. Bydd GE-Hitachi yn ymateb i'r holl sylwadau a chwestiynau perthnasol a bydd y rheoleiddwyr yn defnyddio hyn, lle bo’n berthnasol, i lywio ein gwaith asesu ein hunain.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd rhan yn yr ADG lle mae'r cwmni sy'n dylunio'r orsaf ynni niwclear yn cynghori y gellid cynnig ei ddyluniad ar gyfer ei adeiladu yng Nghymru.
Dywedodd Paul Gibson, Arweinydd Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Wrth i’r prosiect symud ymlaen i Gam 2 (Asesiad Sylfaenol), byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid rheoleiddio, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, ar Asesiad Dyluniad Generig BWRX-300 GE-Hitachi.”
Mae GE-Hitachi wedi lansio gwefan ADG newydd lle mae'n cyhoeddi gwybodaeth fanwl am ei ddyluniad a phroses sylwadau cyhoeddus. Mae'r broses sylwada cyhoeddus yn galluogi unrhyw un i gyflwyno sylwadau a chwestiynau am ddyluniad yr adweithydd i'r cwmni i glywed ei ymateb. Mae rheoleiddwyr yn gweld y cwestiynau a’r ymatebion, a, lle bo’n berthnasol, yn defnyddio’r rhain i helpu i lywio eu hasesiadau drwy weddill y broses ADG.
Mae’r ADG hwn yn cael ei reoli yn y DU gan GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (Cangen y DU) sef y Parti sy’n Gwneud Cais (RP). GE Vernova Inc, yw rhiant-gwmni GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC yn y pen draw, sy'n goruchwylio dyluniad yr adweithydd.
Mae GE-Hitachi yn cael rhywfaint o'i gyllid ar gyfer ei gostau ei hun a chostau rheoleiddwyr yr ADG hwn o raglen Cronfa Galluogi Niwclear y Dyfodol y Llywodraeth. Ar wahân, mae GE-Hitachi wedi'i ddewis gan Great British Nuclear i symud ymlaen i gam nesaf y gystadleuaeth adweithydd modiwlaidd bach i nodi technolegau i'w cynnwys yn rhaglen niwclear y DU.
Gwnaeth GE-Hitachi gais am ADG dau gam y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2025. Wedyn ar ddiwedd Cam 2, bydd y rheoleiddwyr yn cyhoeddi Datganiadau ADG Cam 2, yn nodi lefel eu hyder o ran a ellir adeiladu, gweithredu a datgomisiynu’r dyluniad ym Mhrydain Fawr mewn modd sy’n ddiogel ac yn amddiffyn yr amgylchedd.
Ni chyhoeddir unrhyw Gadarnhad o Dderbyn y Dyluniad (DAC) na Datganiad o Dderbynioldeb y Dyluniad (SoDA) ar ddiwedd y rhaglen waith y cytunwyd arni ar hyn o bryd.
Pe bai sefydliad eisiau dwyn cynlluniau ymlaen i adeiladu BWRX-300 GE-Hitachi ym Mhrydain Fawr, yna byddai angen i'r rheoleiddwyr gynnal cyfnod pellach o asesu’r dyluniad yn fanwl. Byddai angen hyn cyn y gallai gwaith adeiladu o bwys o ran diogelwch ddechrau a chyn cwblhau'r drwydded amgylcheddol. Gellid gwneud hyn ar sail generig gyda GE-Hitachi os yw'n dewis dychwelyd i ADG i gwblhau Cam 3, neu gyda thrwyddedai / gweithredwr yn y DU fel rhan o ddatblygiad safle-benodol.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Ddatganiad Diwedd Cam 1 yr ONR, a Datganiad Diwedd Cam 1 ar y cyd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Gallwch hefyd fynd i wefan ADG GE-Hitachi.