- Site: Trawsfynydd
- IR number: 19-140
- Date: December 2019
- LC numbers: 12, 26
Executive summary
Purpose of Intervention
This inspection was one of a series of planned inspections for 2019/20, which are informed by the ONR Decommissioning Fuel and Waste (DFW) sub-division strategy.
Interventions Carried Out by ONR
This inspection examined the adequacy of Magnox Limited’s (ML) implementation of its arrangements on the Trawsfynydd site for compliance with Licence Conditions (LC): 12 (duly authorised and other suitably qualified and experienced persons) and LC 26 (control and supervision of operations). I also undertook a series of planned meetings to discuss the site’s REPPIR 2019 implementation; the licensee’s arrangements made under LC7 to ensure that incidents are notified, recorded, investigated, reported and that subsequent learning takes place. I also reviewed implementation of Trawsfynydd’s re-baselined decommissioning safety case. I was supported by an ONR specialist inspector to observe Trawsfynydd’s leadership and management for safety and its safety culture characteristics.
For LC12 I targeted implementation of Trawsfynydd’s arrangements to ensure that only suitably qualified and experienced persons perform any duties on the active waste vault project which may affect safety. For LC26, I targeted the control and supervision of ongoing work to recover and immobilise intermediate level waste currently contained in the active waste vaults.
Explanation of Judgement if Safety System Not Judged to be Adequate
Not applicable.
Key Findings, Inspector's Opinions and Reasons for Judgements Made
Based on the evidence examined it is my judgement that ML is effectively implementing arrangements for complying with LC 12 and 26 at Trawsfynydd. In my opinion Trawsfynydd is also effectively implementing well established LC7 arrangements. I identified areas of good practice and some areas where ML could improve.
Conclusion of Intervention
No regulatory concerns were identified as a result of this inspection. My findings were shared with and accepted by the licensee.
Pwrpas yr Ymyriad
Roedd yr arolygiad hwn yn un o gyfres o arolygiadau a gynlluniwyd ar gyfer 2019/20, yn seiliedig ar y strategaeth is-adran Datgomisiynu Tanwydd a Gwastraff (DFW) y Swyddfa dros Reoli Niwclear (ONR).
Ymyraethau a Gyflawnwyd gan yr ONR
Roedd yr arolygiad hwn yn archwilio digonolrwydd gweithrediad Magnox Limited (ML) o’i drefniadau ar safle Trawsfynydd i gydymffurfio ag Amodau Trwyddedu (LC): 12 (personau wedi eu hawdurdodi a phersonau eraill gyda chymwysterau a phrofiad addas) ac LC 26 (rheoli a goruchwylio gweithrediadau). Cynhaliais hefyd gyfres o gyfarfodydd i drafod y modd y mae’r safle yn gweithredu REPPIR 2019; trefniadau’r trwyddedai a wnaed dan LC7 i sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu hysbysu, cofnodi, ymchwilio, adrodd a bod y gwersi dilynol yn cael eu dysgu. Adolygais hefyd weithrediad achos diogelwch datgomisiynu Trawsfynydd y newidiwyd y gwaelodlin ar ei gyfer. Cefnogwyd fi gan arolygydd arbenigol yr ONR i arsylwi ar arweinyddiaeth a rheolaeth Trawsfynydd o ran diogelwch a nodweddion ei ddiwylliant diogelwch.
Ar gyfer LC12 targedais weithrediad trefniadau Trawsfynydd i sicrhau mai dim ond pobl â chymwysterau a phrofiad addas sy’n cyflawni unrhyw ddyletswyddau ar y prosiect fowt gwastraff gweithredol a all effeithio ar ddiogelwch. Ar gyfer LC26, targedais reoli a goruchwylio gwaith sy’n parhau i adfer a sefydlogi gwastraff lefel canolradd sydd ar hyn o bryd yn y fowtiau gwastraff gweithredol.
Esboniad o’r Dyfarniad os Nad oedd y System Ddiogelwch wedi cael ei Barnu yn Ddigonol
Ddim yn berthnasol.
Casgliadau Allweddol, Barnau’r Arolygydd a Rhesymau dros Wneud Dyfarniadau
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a archwiliwyd, fy nyfarniad i yw bod ML yn gweithredu trefniadau i gydymffurfio ag LC 12 a 26 yn Nhrawsfynydd yn effeithiol. Yn fy marn i mae Trawsfynydd hefyd yn gweithredu trefniadau LC7 sydd wedi hen sefydlu yn effeithiol. Nodais feysydd o arfer da a rhai meysydd lle gallai ML wneud gwelliannau.
Casgliad yr Ymyrraeth
Ni ddynodwyd unrhyw bryderon rheoleiddiol o ganlyniad i’r arolygiad hwn. Rhannwyd fy nghasgliadau gyda’r trwyddedai ac fe’u derbyniwyd ganddo.