- Site: Trawsfynydd
- IR number: 20-059
- Date: October 2020
- LC numbers: 13, 19, 20, 21, 22
Executive summary
Purpose of Intervention
This inspection was one of a series of planned inspections for 2020/21, which are informed by the ONR Decommissioning Fuel and Waste (DFW) sub-division strategy.
Interventions Carried Out by ONR
This inspection examined the adequacy of Magnox Limited’s (ML) arrangements and their implementation on the Trawsfynydd site for compliance with Licence Conditions (LC): 13 (Nuclear Safety Committee), LC 19 (Construction or installation of new plant); LC 20 (Modification to design of new plant under construction); LC21 (Commissioning); and LC22 (Modification or experiment on existing plant). I completed a walk-down of the Trawsfynydd safestore height reduction enabling works; met a site safety representative and discussed Trawsfynydd’s progress in improving the resilience of its contingency arrangements.
Explanation of Judgement if Safety System Not Judged to be Adequate
Not applicable.
Key Findings, Inspector's Opinions and Reasons for Judgements Made
Based on the evidence examined it is my judgement that ML is effectively implementing arrangements for complying with LC 13, 19, 20, 21 and 22 at Trawsfynydd.
Conclusion of Intervention
No regulatory concerns were identified as a result of this inspection and future engagement will continue as detailed in the 2020/21 inspection plan.
Diben yr Ymyriad
Roedd yr arolygiad hwn yn un o gyfres o arolygiadau arfaethedig ar gyfer 2020/21, sy'n cael eu llywio gan strategaeth is-adran Dadgomisiynu Tanwydd a Gwastraff (DFW) ONR.
Ymyriadau a Gynhaliwyd gan ONR
Archwiliodd yr arolygiad hwn ddigonolrwydd trefniadau Magnox Limited (ML) a'u gweithredu ar safle Trawsfynydd ar gyfer cydymffurfio ag Amodau Trwydded (LC): 13 (Pwyllgor Diogelwch Niwclear), LC 19 (Adeiladu neu osod offer newydd); LC 20 (Addasu i ddylunio offer newydd sy'n cael ei adeiladu); LC21 (Comisiynu); ac LC22 (Addasu neu arbrofi ar yr offer presennol). Fe wneuthum gwblhau dro gwirio ar yr offer galluogi i leihau uchder storfa ddiogel Trawsfynydd; cyfarfod â chynrychiolydd diogelwch safle a thrafod cynnydd Trawsfynydd o ran gwella gwydnwch ei drefniadau wrth gefn.
Esboniad o'r Dyfarniad os na Farnwyd bod y System Ddiogelwch yn Ddigonol
Ddim yn berthnasol.
Canfyddiadau Allweddol, Barn yr Arolygydd a'r Rhesymau dros Ddyfarniadau a Wnaed
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a archwiliwyd, fy marn i yw bod ML yn gweithredu trefniadau ar gyfer cydymffurfio'n effeithiol â LC 13, 19, 20, 21 a 22 yn Nhrawsfynydd.
Casgliad yr Ymyriad
Ni nodwyd unrhyw bryderon rheoliadol o ganlyniad i'r arolygiad hwn a bydd ymgysylltu yn y dyfodol yn parhau fel y nodir yng nghynllun arolygu 2020/21.