Mae ôl troed y safle trwyddedig niwclear yng Nghanolfan Maynard yng Nghaerdydd wedi ei leihau’n sylweddol wedi i’r Swyddfa dros Reoli Niwclear (ONR) gytuno i gais GE Healthcare (HEHC) i ddiddymu ei drwydded bresennol a chreu ardal drwyddedig lai o fewn ffin y safle.
Fe ddiddymodd y Prif Arolygydd Niwclear, Andy Hall, drwydded flaenorol y Ganolfan a llofnodi un newydd i greu Safle Trwyddedig Niwclear Caerdydd. Mae hysbysiad ffurfiol hefyd wedi ei gyhoeddi sy’n terfynu cyfrifoldeb trwyddedai niwclear GE Healthcare dros yr ardal nad yw bellach wedi ei thrwyddedu. Bydd hyn yn caniatáu i gynlluniau fwrw ymlaen ar gyfer ardal o’r safle i’w ddatblygu i bentref arloesi, canolfan ragoriaeth ryngwladol ar gyfer cwmnïau uwch-dechnoleg gwyddorau bywyd.
Fe stopiodd Canolfan Maynard gynhyrchu radio gemegau ar gyfer gofal ymchwil iechyd a gwyddorau bywyd yn Ebrill 2010, wedi cwblhau cyfres o weithgareddau datgomisiynu, a'r unig weithgaredd cysylltiedig â niwclear ar y safle bellach yw storio gwastraff o brosesau gweithgynhyrchu cynharach i baratoi ar gyfer ei waredu.
Mae’r canlyniad yn derfyn i chwe blynedd o waith gan y trwyddedai mewn cydweithrediad â’r ONR, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Meddai Simon Morgan, Arolygydd Diogelwch Niwclear yr ONR: “Roedd yr ymarfer ail-drwyddedu hwn yn anarferol gan ei fod yn cynnwys diddymu trwydded rhan o’r safle ac ail-drwyddedu’r gweddill i ganiatáu’r newid gweithgaredd hwn ar y safle. Trwy gydol y prosiect mae’r ONR a GEHC wedi ymgysylltu’n adeiladol i alluogi cynllunio effeithiol a gweithrediad y gweithgareddau datgomisiynu.”
Wrth gymeradwyo’r cais, mae’r ONR wedi cyflawni asesiad cynhwysfawr a gwaith arolygu ar draws pum maes allweddol, gan gasglu bod y meini prawf ar gyfer dileu’r drwydded wedi eu cyflawni yn yr adeiladau a’r ardaloedd ble byddai’r drwydded yn cael ei dileu, ac y gellid bwrw ymlaen i ail-drwyddedu ar gyfer Safle Trwyddedig Niwclear Caerdydd.